Ithel Davies | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 1894 ![]() Cemaes ![]() |
Bu farw | 9 Medi 1989 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr ![]() |
Bargyfreithiwr ac ymgyrchydd gwleidyddol Cymreig oedd Ithel Davies (15 Chwefror 1894 - 9 Medi 1989[1].
Roedd yn enedigol o Gwm Tafolog, Sir Drefaldwyn.[2]. Roedd yn fab i Benjamin Davies, ffarmwr ac Ann (née Ellis). Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, carcharwyd ef fel gwrthwynebwr cydwybodol. Bu'n aelod o'r Blaid Lafur am gyfnod, a safodd fel ymgeisydd y blaid yn sedd Prifysgol Cymru yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1935.
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1950, safodd fel ymgeisydd Plaid Weriniaethol Cymru yn etholaeth Ogwr. Cafodd 613 o bleidleisiau (1.3%).
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search